DEWCH I SGWRSIO

 Dewch i Sgwrsio


Mae'r rhaglen 'Dewch i Sgwrsio' yn rhedeg am 10 wythnos ac yn galluogi pobl ifanc i ddysgu sgiliau a thechnegau newydd sy'n angenrheidiol i wneud eitemau unigryw â llaw sydd nid yn unig yn cael pobl i siarad am ymddygiadau mentrus ond sydd hefyd yn hyrwyddo negeseuon cadarnhaol.

Sesiwn flasu/cyflwyno yw Sesiwn 1 lle mae buddiolwyr yn trafod 4 pwnc ymddygiad peryglus: diogelwch ar-lein, camddefnyddio sylweddau, addysg rhyw ac iechyd meddwl, gan benderfynu pa bwnc sy'n eu pryderu fwyaf ac sy'n cael yr effaith fwyaf ar eu bywydau. Y mater dan sylw sy'n darparu'r ffocws ar gyfer y 2 weithdy gemwaith, y 2 weithdy stensils graffiti, y 2 weithdy argraffu crysau-T a'r 2 weithdy canfas mawr. Mae'r 10fed sesiwn yn cloi gyda dathliad wedi'i gynllunio gan y buddiolwyr lle bydd eu gwaith yn cael ei arddangos, byddan nhw'n derbyn tystysgrifiau mewnol, a bydd eu gwaith caled yn cael ei ganmol. 
 
Mae'r bobl ifanc yn cael cadw'r gemwaith, y crys-t a'r byrddau graffiti i hyrwyddo neges gadarnhaol barhaus a chaiff y paentiadau eu harddangos yn gyhoeddus er mwyn i'r gymuned allu eu gweld. Mae'r sgiliau a'r hyder newydd y bydd y bobl ifanc yn eu hennill, ynghyd â mwy o wybodaeth ar bynciau ymddygiad mentrus perthnasol yn helpu i rymuso unigolion i wneud dewisiadau mwy gwybodus yn y dyfodol. 

Fe hoffen ni ddiolch i Arian i Bawb Cymru am gyllido'r prosiect hwn yn 2019 - 2020. 
 


I wneud ymholiadau am ein prosiect Dewch i Sgwrsio, 

cysylltwch â ni. 


Diolch yn fawr

Cysylitwch a ni

Share by: