Mae'n prosiect Restart yn galluogi dysgwyr 13-19 oed a hyd at 25 oed i ennill achrediadau Agored Cymru. Mae'r prosiect yn cynyddu hyder a dyheadau pobl ifanc ac yn galluogi unigolion i wneud dewisiadau bywyd mwy gwybodus yn y dyfodol.
Mae 1125 yn cyflwyno 8 o gyrsiau achrededig Agored Cymru;
Uned Agored Cymru ar Ddeall Perthnasoedd (Perthnasoedd Iach)
Bydd dysgwyr yn astudio pob agwedd o berthnasoedd iach yn cynnwys perthnasoedd pwysig yn eu bywydau, credoau ac o ble maen nhw'n dod. Bydd dysgwyr yn gallu adnabod ymddygiadau camdriniol, pŵer a rheolaeth ac o ble i gael gafael ar gefnogaeth. Gan ddefnyddio dulliau amrywiol bydd y bobl ifanc yn dysgu sgiliau sy'n ofynnol i gael perthnasoedd iach, yn derbyn cyfrifoldeb dros weithredoedd lle bo angen ac yn datblygu'r gallu i weld safbwyntiau pobl eraill.
Uned Agored Cymru ar Iechyd Meddwl a Lles
Mae'r cwrs yma'n cyflwyno'r 5 cam at les meddyliol fel sy'n cael eu hargymell gan y GIG. Bydd dysgwyr yn gwneud 5 her, yn 'cysylltu' drwy weithdai cyfranogiad grŵp, perthnasoedd ac 'Ymwybyddiaeth ofalgar' yn ffocysu ar strategaethau lleihau risg ac ymlacio. Mae'r dysgwyr yn gallu bod yn 'weithredol' drwy osod amcanion personol newydd, yn gallu 'parhau i ddysgu' drwy greu cofarwydd personol positif ac yn olaf maen nhw'n gallu 'rhoi i eraill'. Erbyn diwedd y cwrs bydd dysgwyr yn deall beth yw ystyr iechyd meddwl a lles, ymwybyddiaeth emosiynol, ffactorau gwytnwch a mecanweithiau ymdopi i leihau pryder a straen.
Uned Agored Cymru ar Ddeall Perthnasoedd Rhywiol
Mae'r cwrs Addysg Rhyw yn darparu gofod diogel i ddysgwyr drafod beth yw rhyw a'r gwahanol fathau o ieithwedd sy'n cael eu defnyddio wrth siarad am ryw. Mae'r dysgwyr yn edrych ar ganlyniadau emosiynol a chorfforol rhyw, heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, atal cenhedlu a deddfwriaeth gyfredol yn cynnwys cyfreithiau ar 'dynnu' a 'rhannu' lluniau rhywiol eglur, cydsyniad ac erthyliad. Bydd y dysgwyr yn derbyn gwasanaethau yn y maes os oes angen gwybodaeth neu arweiniad pellach yn cynnwys y cynllun Cerdyn-C.
Uned Agored Cymru ar Wirfoddoli ac Ymgysylltiad Cymunedol
Mae'r cwrs yma'n cynnig profiad gwaith a sgiliau cyflogadwyedd i ddysgwyr er mwyn gwella eu cyfleoedd o gael gwaith yn ogystal â rhoi yn ôl i'w cymuned. Yn ystod y cwrs bydd dysgwyr yn adnabod eu sgiliau personol eu hunain y gallan nhw eu cynnig ac yn ymchwilio i gyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael yn eu cymunedau. Bydd y dysgwyr yn cael gwella eu hyder drwy drefnu eu cyfranogiad a byddant yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn 30 awr o wirfoddoli yn y gymuned.
Uned Agored Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau
Mae'r cwrs ar Ddeall Camddefnyddio Sylweddau yn addysgu dysgwyr ar gategorïau sylweddau, eu heffaith a'u statws cyfreithiol. Bydd dysgwyr yn deall yn well effeithiau hir dymor a thymor byr sylweddau a'r risgiau cysylltiedig, a byddant yn edrych ar fepio a'r effaith y mae hyn yn gallu ei gael ar y corff. Gyda'n gilydd byddwn yn archwilio effeithiau camddefnyddio sylweddau ar eu cymuned a'r effaith ar gymdeithas gyfan.
Uned Agored Cymru ar Sgiliau Byw'n Annibynnol
Mae'r cwrs Sgiliau Byw'n Annibynnol yn galluogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau coginio ymarferol drwy ddysgu am fwyta'n iach, coginio ar gyllideb, coginio cost-effeithiol a hylendid bwyd. Bydd y cwrs yn caniatáu ar gyfer datblygiad mewn rheoli'r cartref, sut i ddilyn ffordd o fyw iach, rheoli amser, gofal personol, lles a chymdeithasoli a sut i gwblhau ceisiadau am swydd. Ar ddiwedd y cwrs bydd y dysgwyr yn gallu coginio prydau iach a byddant wedi gosod amcanion iach ar gyfer y dyfodol.
Uned Agored Cymru ar Fentora Cymheiriaid
Mae'r cwrs Mentora Cymheiriaid yn galluogi dysgwyr i gael cyfle i ddatblygu eu sgiliau drwy gynllunio, trefnu a rhedeg gweithgaredd mentora cymheiriad ar raddfa fach. Bydd y dysgwyr yn cymryd rôl arweiniol yn trefnu amserlen o weithgareddau yn seiliedig ar eu hanghenion a'u diddordebau a byddant yn weithredol yn paratoi, cynllunio gweithgareddau, cyflwyno a gwerthuso'r dasg a ddewiswyd. Bydd y dysgwyr yn helpu i gwblhau asesiadau risg ac yn cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch, yn archwilio ffiniau a chyfrinachedd o fewn perthynas mentorau cymheiriaid.
Uned Agored Cymru yn Sgiliau Awyr Agored
Bydd y dysgwyr yn adnabod peryglon mewn lleoliad awyr agored, yn dysgu am fioamrywiaeth, yn defnyddio amrywiaeth o offer llaw, ac yn gallu adeiladu eitemau gyda deunyddiau awyr agored, adeiladu lloches dros dro a byddant yn dysgu sut i adeiladu a diffodd tân. Ar ben hyn, bydd y bobl ifanc yn elwa'n holistaidd drwy gysylltu gyda natur drwy arsylwi a dysgu sut y gallan nhw amddiffyn eu hamgylchedd naturiol.
Canlyniadau allweddol Re-Start
1. Bydd dysgwyr yn adrodd cynnydd yn eu hyder.
2. Bydd dysgwyr yn codi eu dyheadau.
3. Bydd dysgwyr yn cynyddu eu hymwybyddiaeth o'u hymddygiad mentrus.