CYMUNED

RHOI YN ÔL I'R GYMUNED

'Grŵp o bobl sy'n dewis tyfu gyda'i gilydd yw cymuned'




Mae'r gymuned yn bwysig iawn i 1125 CIC ac yn ystod y flwyddyn rydyn ni'n trefnu gweithgareddau gwirfoddoli i helpu pobl yn yr ardal leol ac i helpu i wella gofodau cymunedol.


1. BLYCHAU RHANNU

Adeg y Nadolig rydyn ni'n gwneud blychau rhannu ar gyfer y bobl ifanc sy'n rhan o gymuned 1125 CIC. Yn y blychau mae bomiau bath wedi'u gwneud â llaw, canhwyllau, gemwaith, arwyddion cadarnhaol a hadau 'pob lwc' i dyfu eich hun.

Meddai un o'r bobl ifanc, 'Diolch am yr anrheg, roedd hi mor braf cael anrheg wedi'i wneud gan y grŵp'.

Os hoffech chi gyfrannu unrhyw arian i gefnogi ein hapêl blwch rhannu, cysylltwch â ni ar.


2. GWIRFODDOLI

Mae parchu ein cymuned yn bwysig felly rydyn ni'n gweithio gyda phobl ifanc i helpu i 'roi yn ôl' drwy beintio adeiladau cymunedol neu helpu i adnewyddu gofodau awyr agored. Rydyn ni wedi gweithio yng Nghlwb Criced Cei Connah ac wedi helpu gyda'r iard tu allan...

Yr adborth oedd 'Mae'n wych, mae'n edrych yn anhygoel ac mae'r holl bobl yn y clwb wrth eu bodd gyda beth rydych chi i gyd wedi'i wneud'.

Rydyn ni'n trefnu gweithgareddau casglu sbwriel lle mae pobl ifanc yn gallu dewis pa stryd i'w lanhau. Rydyn ni'n dod at ein gilydd fel grŵp, ac ar ôl cyflwyniad byr ar ddiogelwch rydyn ni'n gafael mewn codwr sbwriel a bag ac yn treulio ychydig o oriau'n glanhau'r lleoliad. 

3. PARSELI BWYD ARGYFWNG

Rydyn ni'n hyrwyoddo gwasanaethau lleol yn yr ardal er enghraifft y Banc Bwyd, eglwysi ... ond rydyn ni hefyd wedi darparu parseli bwyd argyfwng i bobl ifanc a theuluoedd sydd mewn argyfwng.

Os hoffai unrhyw un gyfrannu arian i


1125 CIC tuag at barseli bwyd argyfwng, cysylltwch â ni.


Mae hyn yn dibynnu ar yr adnoddau sydd ar gael.


4. DIGWYDDIADAU CODI ARIAN

Rydyn ni'n trefnu digwyddiadau codi arian yn y gymuned i geisio codi arian i 1125 CIC. Mae'r arian sy'n cael ei godi'n mynd yn ôl i'r gymuned er mwyn gallu trefnu gweithgareddau i'r bobl ifanc sydd eu hangen fwyaf.


Os hoffai unrhyw un gynnal digwyddiad codi arian, cysylltwch â ni.



CYFRANIADAU

Os hoffai unrhyw un gyfrannu arian i 1125 CIC tuag at brosiectau cymunedol, cysylltwch â ni.  Mae pob cyfraniad, bach neu fawr, yn cefnogi pobl ifanc o'n cymuned.


Fe hoffen ni ddiolch yn fawr iawn i'r sefydliadau, y cyllidwyr a'r bobl gwych sydd wedi ein helpu ni gyda'r prosiectau a'r digwyddiadau hyn.

 Cysylltwch â ni 

Ebost Haley Burke
haley@1125cic.co.uk

Ebost Lindsay Apsley
lindsay@1125cic.co.uk

Ebost Joanne Halliday
joanne@1125cic.co.uk



Contact Us

Share by: