PROSIECT HAMGYLCHEDD

YSGOL GOEDWIG  / EIN HAMGYLCHEDD 

Mae'r amglychedd yn bwysig iawn i 1125 CIC ac rydyn ni eisiau darparu prosiectau sy'n galluogi pobl ifanc i ddysgu am natur a sut i'w pharchu. 

YSGOL GOEDWIG 


Rydyn ni'n cynnal Ysgolion Coedwig yn ystod y flwyddyn ar

gyfer gwahanol oedrannau fel bod pobl ifanc yn cael y cyfle

i fynd allan i ganol natur a dysgu sgiliau bywyd. Yn ystod

y sesiynau mae'r grŵp yn dod i ddysgu am fioamrywiaeth, yn defnyddio amrywiaeth o offer llaw, ac yn gallu adeiladu

eitemau gyda deunyddiau awyr agored, adeiladu lloches

dros dro a byddant yn dysgu sut i adeiladu a diffodd tân. 


'Bydd y bobl ifanc yn elwa'n holistaidd drwy gysylltu gyda

natur drwy arsylwi a dysgu sut y gallan nhw amddiffyn eu hamgylchedd naturiol’

 

'Bydd y grŵp hefyd yn cael y cyfle i ddatblygu technegau

ymwybyddol ofalgar y gallan nhw eu hymarfer gartref'. 


BYDIS BEDW


 Ysgol goedwig yw Bydis Bedw (Birch Buddies) ar gyfer pobl

ifanc 11-13 oed sy'n galluogi pobl ifanc agored i niwed ac wedi'u hynysu i fod yn yr awyr agored ac i archwilio byd natur.

Mae Bydis Bedw yn helpu i gael rhai o'r grŵp ieuengaf

allan o'r tŷ i amgylchedd diogel yn yr awyr agored lle gallan nhw wneud ffrindiau a chwarae. Mae'r prosiect yn cynnwys

ysgolion coedwig, chwarae yn yr awyr agored, teithiau

cerdded a sgyrsiau natur, cynnau tân, coginio bwyd iach ar

y tân, defnyddio offer awyr agored, adeiladu den, celfyddydau

natur a dysgu am yr amgylchedd.  


EIN HADDUNED ECO 

Mae'r amglychedd yn bwysig iawn i 1125 CIC 

Yn 2022 fe fuon ni'n gweithio gydag arbenigwr-Eco ac aeth gweithwyr 1125 CIC ar gwrs Llythrennedd Carbon i Arweinwyr gan wneud addewidion.

 

‘Addewid 1125 CIC i leihau ein hôl troed carbon’

 

Fel cwmni rydyn ni'n addo gwneud penderfyniadau sy'n ymwybodol o'r amgylchedd i liehau ein hôl troed carbon gyda'r dyhead o fod â gofod bychan carbon niwtral erbyn 2032.

 

Rydym yn addo bod yn eiriolwyr dros leihau, ail-ddefnyddio ac ailgylchu a hyrwyddo bwydydd iach gan wneud pobl ifanc yn ymwybodol o rysaitiau heb gig a chynnyrch llaeth. Byddwn yn hyrwyddo cynlluniau gwastraff bwyd ac yn tyfu llysiau a bwydydd seiliedig ar blanhigion yn y gymuned, prynu adnoddau yn lleol er mwyn i ni leihau allyriadau carbon rhyngwladol. Yn ystod misoedd yr haf byddwn yn hyrwyddo dyddiau peidio defnyddio'r car a cheisio defnyddio beic, cludiant cyhoeddus neu gerdded pan gallwn ni.

 

Arweinydd ieuenctid: 'Yn ystod ein Hadduned Eco fe fuon ni'n ymweld â gerddi cymunedol lleol ac yn dysgu am gompostio a sut i dyfu bwyd. Fe ddysgon ni am gnydau a sut y maen nhw'n cael eu plannu fesul codlysiau, gwreiddlysiau, llysiau gwyrdd deiliog a chnydau sy'n dwyn ffrwyth ac y dylen ni ddefnyddio plannu cylchdro er mwyn osgoi plâu a chlefydau.'

 

Lindsay Apsley ‘Fe ddysgon ni am baramaethu a sut i ddatblygu ecosystemau sy'n gynaliadwy ac yn hunangynhaliol. 'Fe edrychon ni ar y ffordd y gellir defnyddio adnoddau naturiol i amddiffyn y planhigion drwy ddefnyddio polion collen a chortyn ac fe gawson ni wers ar baramaethu a sut i greu ecosystem holistig a chydseiniol. Roedden ni wrth ein bodd yn edrych o gwmpas Gerddi Organig Llechwedd Garth yng Nglyn Ceiriog - fe welson ni neidr ddefaid hyd yn oed!'

 

Arweinydd ieuenctid: 'Fe ddwedon nhw wrthon ni i weithio gyda natur ac nid yn ei erbyn drwy wella'r bioamrywiaeth lleol.'

 

Fe hoffen ni ddiolch yn fawr iawn i'r sefydliadau gwych sydd wedi cyllido'r prosiectau yma. 

Share by: