MENTER GYMDEITHASOL

MENTER GYMDEITHASOL RENEW 

Mae'r arian sy'n cael ei godi yn mynd yn syth yn ôl i'r gymuned. 


CYNNYRCH MENTER GYMDEITHASOL RENEW 

Rydyn ni'n darparu prosiectau menter gymdeithasol sy'n galluogi pobl ifanc i gymryd rhan yn y gwaith cynllunio, cyllidebu, marchnata a gwerthu'r cynnyrch y maen nhw wedi eu gwneud.


Yn ystod y sesiynau Re-new rydyn ni'n cynnal gweithdai creadigol yn gwneud y cynnyrch sy'n cael eu creu allan o 'sbwriel' sy'n aml yn gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol - alwminiwm o ganiau, papur o sigaréts a thopiau poteli gwin a chwrw; ynghyd â phethau sy'n cael eu taflu fel plastigau, gwifrau, cogiau a phapur.



Mae'r gweithdai busnes yn galluogi unigolion i ddysgu am hysbysebu, marchnata a chyllidebu ac mae'r sesiwn olaf yn galluogi'r grŵp i werthu eu cynhyrchion.


Os hoffai unrhyw un gyllido'r prosiect menter gymdeithasol Renew, cysylltwch â ni. 

PECYNNAU TYFU EICH HUN 

Yn ystod gweithdai 'Tyfu eich hun' mae'r bobl ifanc yn cymryd rhan ym mhob agwedd o greu'r pecynnau natur. Mae'r bobl ifanc yn helpu i ddod o hyd i'r cynnyrch a rhoi'r eitemau yn y blychau cardfwrdd. Yn y pecynnau 'Tyfu eich hun' rydyn ni'n rhoi perlysiau, llysiau a phlanhigion tymhorol, pelennau compost a chyfarwyddiadau er mwyn i chi allu tyfu eich cynnyrch eich hun ar eich silff ffenestr. Rydym hefyd yn rhoi cardiau post cadarnhaol a dyfyniadau cymhellol yn y blychau y gallwch eu gosod o gwmpas y tŷ. Os hoffai unrhyw un brynu blychau 'Tyfu eich hun' cysylltwch â ni.

DIGWYDDIADAU CODI ARIAN 

 Rydyn ni'n trefnu digwyddiadau codi arian yn y gymuned i geisio codi arian i 1125 CIC. Mae'r arian sy'n cael ei godi'n mynd yn ôl i'r gymuned er mwyn gallu trefnu gweithgareddau i'r bobl ifanc sydd eu hangen fwyaf.


Os hoffai unrhyw un gynnal digwyddiad codi arian, cysylltwch â ni. 


CYFRANIADAU 

Os hoffai unrhyw un gyfrannu arian i 1125 CIC tuag at brosiectau cymunedol, cysylltwch â ni.  


Mae pob cyfraniad, bach neu fawr, yn cefnogi pobl ifanc o'n cymuned.

Fe hoffen ni ddiolch yn fawr iawn i'r sefydliadau, y cyllidwyr a'r bobl gwych sydd wedi ein helpu ni gyda'r prosiectau a'r digwyddiadau hyn. 

Share by: